SESIYNAU HAF

Mae Mermaid Quay yn dod â cherddoriaeth fyw i’r glannau wrth i Sesiynau’r Haf ddychwelyd ym mis Awst.
Bydd Sesiynau’r Haf yn gweld perfformwyr byw yn meddiannu’r glannau gan ddarparu’r lle perffaith i ymlacio, mwynhau bwyd a diod o’r amrywiaeth o fwytai, bariau a chaffis, a gwerthfawrogi holl hwyl yr haf.
Mae’r digwyddiadau am ddim yn gyfeillgar i blant a chŵn, ac eleni bydd disgo tawel yn rhan o’r arlwy i’r plantos lle gallant wisgo i fyny a dysgu symudiadau dawns, ynghyd â pheintio wynebau am ddim – mae’n argoeli’n ddiwrnod i’r brenin i’r teulu cyfan.

Gweler ein rhestr lawn isod:

  • Dydd Iau 1 Awst 2024 – Morwenna
  • Dydd Sul 4 Awst – Morwenna
  • Dydd Sul 4 Awst – Technicolour Choir
  • Dydd Sul 11 Awst – John Adams
  • Dydd Iau 15 Awst – Orchestral Beats
  • Dydd Sul 18 Awst – Children’s Silent Disco
  • Dydd Lau 22 Awst – Wrenna
  • Dydd Sul 25 Awst – Orchestral Beats

Bydd hefyd peintio wynebau am ddim rhwng 12pm a 4pm bob dydd Sul ym mis Awst.

Meddai Becky Jones, Rheolwr Marchnata Mermaid Quay: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnal Sesiynau’r Haf yn Mermaid Quay eto fis Awst eleni. Ein glannau yw’r lle perffaith i ymlacio ar ddiwrnod braf o haf a gyda’n llu o berfformwyr cerddorol byw a’n hamrywiaeth o fariau, bwytai a chaffis gwych, does nunlle gwell i ddathlu’r Haf gyda theulu a ffrindiau!”