Cafodd Cadwaladers ei sefydlu yn 1927 ym mhentref bach Cricieth gan David a Hannah Cadwalader.
Dros y blynyddoedd rydym wedi ehangu ein caffis hufen iâ a choffi poblogaidd dros Gymru a Lloegr, gan ddod â’r gwasanaeth a’r cynnyrch gorau i’n cwsmeriaid. Bu inni agor ein caffi yng Nghei’r Fôr-forwyn ym mis Mai 2006.
Rydym yn falch o weini ein hufen iâ â’i rysáit draddodiadol, a ddatblygwyd gan Hannah Cadwalader (ac sy’n dal i gynnwys y cynhwysyn dirgel enwog!) ac, erbyn hyn, ein blend unigryw o espresso, siocled poeth a the dail rhydd a ddatblygwyd yn arbennig gennym, sydd ar gael i’w prynu yn ein siopau ac ar y we ar www.cadwaladers.co.uk
Gyda’n prisiau cystadleuol, ein cynnyrch arbennig a’n tîm gofalgar, gallwn eich sicrhau bod gennym ddewis i’r teulu cyfan. Mae ein bwydlen newydd ar gael yn awr. Mae’n cynnwys pitsas sydd wedi’u coginio’n ffres, brechdanau a brechdanau wedi’u tostio sy’n cael eu paratoi ar y safle, a’n dewis poblogaidd o hufen iâ a diodydd. Mae gennym ddewis eang o fwyd nad yw’n cynnwys cynhyrchion llaeth neu glwten a bwyd ar gyfer feganiaid.
Mae Cadwaladers yng Nghei’r Fôr-forwyn mewn lle delfrydol ar ei bier ei hun, ac mae’n lle perffaith i ymlacio gyda ffrindiau, plant, partner a chŵn, tra bo’n tîm cyfeillgar yn gweini’r gorau oll y gall Cymru ei gynnig i chi, a hynny’n llawn gofal a chariad.
Mae danteithion arbennig ar gael trwy gydol y flwyddyn. Mynnwch gip ar Facebook, Twitter neu Instagram i ganfod ein cynigion diweddaraf, a thagiwch ni yn eich lluniau @Cadwaladers.
Oriau Agor
Mon to Fri: 9:00am – 5:00pm
Fri to Sun: 9:00am – 6:00p