“Quinquireme of Nineveh from distant Ophir
Rowing home to haven in sunny Palestine,
With cargo of ivory,
And apes and peacocks,
Sandalwood, cedarwood and sweet white wine.
Stately Spanish Galleon coming from the Isthmus,
Dipping through the Tropics by the palm-green shores,
With a cargo of diamonds,
Emeralds, amethysts,
Topazes and cinnamon and gold moidores.
Dirty British coaster with a salt-caked smoke stack,
Butting through the Channel in the mad March days,
With a cargo of Tyne coal,
Road-rail, pig-lead,
Firewood, iron-ware and cheap tin trays.”
CARGOES – JOHN MASEFIELD
Dilynwch y Llwybr Cargoes Trail yn Mermaid Quay i edrych yn ôl ar y dyddiau a fu
Mae’r gerdd enwog ‘Cargoes’ gan John Masefield yn deyrnged atgofus i flynyddoedd euraidd y dociau mawrion fel Caerdydd.
Gallwch weld y gerdd yn cael ei bywiogi yn Mermaid Quay.
100 o flynyddoedd yn ôl, roedd Caerdydd yn un o borthladdoedd mwyaf y byd. Ymdriniwyd â mwy o dunelli o lo yna nag unrhyw borthladd arall, yn ogystal â llawer iawn o ddur a thunplat. Ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf, cyrhaeddodd allforion glo Caerdydd dros 10 miliwn o dunelli.
Yn ogystal â glo a dur, roedd Caerdydd yn croesawu cargoau gwerthfawr o bedwar ban y byd – y mae pob un o’r rhain yn cael eu cynnwys yng ngeiriau cerdd John Masefield.
Yn ystod y gwaith adeiladu, ymunodd Mermaid Quay gyda CBAT (Asiantaeth y Celfyddydau ac Adfywio) i gomisiynu’r artist Brian Fell i greu arddangosfa barhaol i ddathlu gwaith Masefield.
Mae cyfanswm o 21 cerflun yn cynrychioli gwahanol rannau o’r gerdd. Caiff y cerfluniau eu trefnu mewn i dri grŵp, gyda phob grŵp yn cynrychioli un o’r tri math gwahanol o long sy’n cael eu cynnwys yn y gerdd ynghyd â’u cargoau.
A allwch chi ddod o hyd iddynt i gyd?
Hefyd, yn agos at fynedfa pier Cadwaladers, fe welwch y gerdd ei hun – wedi’i bwrw mewn metel a’i bolltio i’r llawr.
Gwybodaeth am Brian Fell
Mae Brian Fell yn artist o Swydd Derby sydd â chefndir cryf mewn gwaith cyhoeddus.
Mae wedi gweithio ar nifer o gomisiynau adnabyddus ar gyfer y Tern Project yn Morecambe a’r Trafford Park Development Corporation ym Manceinion. Bu hefyd yn gyfrifol am Gofeb Rhyfel y Masnachlongwr ger y Pierhead Building ym Mae Caerdydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i brianfell.org.uk
Os oes gennych ddiddordeb mewn celf, edrychwch ar ein taflenni gweithgaredd llwybrau celf i fyfyrwyr YMA.