Bydd Mrs Corn yn Mermaid Quay dros yr ŵyl!
Bydd teuluoedd yn cael eu croesawu i Gegin Mrs Corn gan y corachod hapus cyn iddyn nhw eistedd ar y clustogau clyd am stori gyda Mrs Corn. Bydd amser stori yn llawn hwyl a sbri gyda gemau trochi fel cerfluniau cerddorol yng nghwmni’r Corachod Hapus!
Yna bydd cyfle i’r plant addurno bisged sinsir ac ysgrifennu eu llythyr at Siôn Corn cyn gadael gyda ffon felys a blasus.
Dyddiadau’r Digwyddiad:
- Dydd Sadwrn 30 Tachwedd
- Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr
- Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr
- Dydd Sul 15 Rhagfyr
- Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr
Amseroedd pob sesiwn:
- 11am – 11:40am
- 12pm – 12:40pm
- 1:00pm – 1:40pm
- 2:15pm – 3:00pm
- 3:15pm – 4:00pm
Lleoliad y Digwyddiad:
- Uned 13, rhwng Pavers a Fabulous Welshcakes
Noder – bydd Cegin Mrs Corn yn cynnal sawl sesiwn ar y diwrnodau dan sylw, ac er nad oes angen cadw lle ymlaen llaw, hyn a hyn o leoedd fydd ymhob sesiwn er mwyn sicrhau profiad gwirioneddol hudolus i bob plentyn.