Dathlwch y Dolig yn Zizzi

Rydych chi’n siŵr o gael Dolig llawen iawn yn Zizzi! Dewch i fwynhau eu Bwydlen Nadoligaidd Osod 3 chwrs o £26.50, sydd ar gael o 5 Tachwedd 2024. Dewch i wledda ar ffefrynnau tymhorol unigryw Zizzi – cewch bryd i’w gofio.

Gwesteion Arbennig yr Ŵyl
Mae yna lond sach o flasau’r Dolig ar gael gyda Gwesteion Arbennig Tymhorol Zizzi! Eleni, maen nhw’n gweini holl hud a lledrith yr ŵyl gyda phrydau newydd fel selsig mewn blancedi Bombe, Wellington cig eidion, a Chimwch Mafaldine gyda Chorgimychiaid Brenhinol Spiedini.

I’r rhai sy’n gwirioni ar bwdin, mae’r Profiterole Nadoligaidd anferth yn ddiweddglo melys perffaith. A chofiwch gael coctel bach llawen i chi’ch hun… Mae’r Aperol Oren Gwaed Pefriog yn mynd i fod yn dipyn o ffefryn!