Zizzi yw’r lle perffaith i ddathlu! Boed yn ginio gwaith Nadoligaidd neu’n ddathliad i griw o ffrindiau neu deulu, gall y bwytai ddarparu ar gyfer grwpiau mawr a sicrhau digwyddiad i’w gofio. Holwch heddiw, a gadewch i Zizzi wneud y gweddill!
Cardiau Rhodd Nadolig
Mae sled Siôn Corn ar ei ffordd, a dim ond clicio sydd raid i drefnu Cardiau Rhodd ac eRoddion Zizzi! Os ydy’ch anwyliaid yn caru pizza neu’n hoffi pasta, neu’n mwynhau bwyd gwych yn gyffredinol, cardiau rhodd Zizzi yw’r ffordd ddelfrydol i i rannu hwyl yr ŵyl a chreu atgofion blasus. Rhowch anrheg Nadolig Zizzi a bydd pawb yn siŵr o fwynhau!
Clicio a Chasglu a Dosbarthu
Boed law neu hindda, mae derbyn prydau gan Zizzi i garreg eich drws yn hyfryd bob amser! Y Nadolig hwn, mwynhewch ein blasau Nadoligaidd o gysur eich cartref. Gyda Chlicio a Chasglu neu ddosbarthu trwy Deliveroo, Uber Eats, neu Just Eat, gallwch fwynhau eich hoff brydau Nadoligaidd heb adael y tŷ. Gadewch i Zizzi ddod â hud a lledrith y Dolig yn syth i’ch aelwyd.