12 – 18 Mai 2025
Cymuned: Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel a chadarnhaol yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n lles meddyliol.
Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn Mermaid Quay
Eleni, bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cael ei chynnal rhwng 12 a 18 Mai 2025. Y thema ar gyfer 2025 yw ‘Cymuned’.
Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel a chadarnhaol yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n lles meddyliol. Rydyn ni’n ffynnu pan fydd gennym gysylltiadau cryf â phobl eraill a chymunedau cefnogol sy’n ein hatgoffa nad ydyn ni ar ein pen ein hunain. Gall cymunedau feithrin ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cefnogaeth mewn amseroedd caled, a rhoi ymdeimlad o bwrpas inni.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl eisiau defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i ddathlu grym a phwysigrwydd cymuned.
Pam cymuned?
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi ymrwymo i greu byd lle mae iechyd meddwl da i bawb. Maen nhw’n gwneud hyn drwy ganolbwyntio ar atal iechyd meddwl gwael law yn llaw ag adeiladu a diogelu iechyd meddwl da.
Maen nhw’n gwybod bod teimlo’n rhan o gymuned yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n lles meddyliol. Rydyn ni’n ffynnu pan fydd gennym ni gysylltiadau cryf ag eraill a chymunedau cefnogol o’n cwmpas.
Maen nhw hefyd yn gwybod bod pobl sydd â mwy o gysylltiad cymdeithasol â theulu, ffrindiau neu eu cymuned yn hapusach, yn iachach yn gorfforol, ac yn byw’n hirach, ac y bydd ganddyn nhw lai o broblemau iechyd meddwl na phobl sydd â llai o gysylltiad.
Gall cymunedau roi ymdeimlad o berthyn, diogelwch a chefnogaeth i ni ar adegau anodd, a rhoi pwrpas i ni.
Felly, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl am ddathlu’r cymunedau sy’n ein cefnogi i ddiogelu a meithrin iechyd meddwl da.
Beth yw Cymuned?
Mae yna sawl math o gymuned, a gallwch berthyn i fwy nag un.
Grŵp o bobl sy’n dod at ei gilydd oherwydd bod ganddyn nhw rywbeth yn gyffredin – dyna yw cymuned. Gellir dod o hyd i hyn naill ai gyda’r bobl sy’n byw o’n cwmpas mewn lleoliad daearyddol neu gyda phobl rydyn ni’n cysylltu â nhw oherwydd bod gennym ni werthoedd a diddordebau tebyg. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i’ch cymuned yn yr ysgol neu yn y gwaith, trwy eich ffydd, mewn clwb lle rydych chi’n mwynhau hobi, fel rhan o grŵp sy’n ysbrydoli gweithredu dros newid cadarnhaol, wrth chwarae gemau ar-lein, neu hyd yn oed oherwydd eich bod chi wrth eich bodd â Taylor Swift.
Yr hyn sy’n bwysig yw y dylai cymuned wneud i chi deimlo’n dda amdanoch chi’ch hun, teimlo’n ddiogel, a theimlo empathi tuag at eraill. Mae cymuned yno i’ch helpu trwy’r amseroedd anodd fel salwch, profedigaeth, neu drychinebau naturiol. Gydol Covid, gwelsom enghreifftiau di-ri o gymunedau’n dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd, dod o hyd i lawenydd, a sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn derbyn gofal.
Wrth gwrs, dydy pob cymuned ddim yn ddiogel nac yn iach. Os yw cymuned yn gwneud i chi feddwl yn negyddol amdanoch chi’ch hun, yn annog gweithredoedd cas neu’n gwahaniaethu yn erbyn eraill, neu’n eich rhoi chi mewn perygl, bydd yn niweidiol i’ch iechyd meddwl a’ch lles meddyliol. Gydol yr wythnos byddwn hefyd yn siarad am sut i adnabod ac amddiffyn eich hun ac anwyliaid rhag unrhyw ofodau niweidiol.
Gwybodaeth o wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.