Yn sgil y chwyldro diwydiannol gwelwyd twf aruthrol yn nociau Caerdydd, gyda’r ardal, a elwid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ‘Tiger Bay’, yn chwarae rhan amlwg o ran allforio glo. Roedd pyllau glo cymoedd de Cymru yn cynhyrchu glo a oedd yn cael ei allforio i weddill y byd, ac erbyn 1913 roedd 10,700,000 o dunelli o lo yn gadael y Bae bob blwyddyn.
Fel yn achos y rhan fwyaf o ddociau, daeth Tiger Bay yn bair amlddiwylliannol lle daeth mewnfudwyr o Norwy, Sbaen, y Caribî ac Iwerddon ynghyd i greu cymunedau. Norwyaid oedd rhieni Roald Dahl, a chafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd, sydd bellach yn ganolfan gelfyddydol. Treftadaeth amlddiwylliannol y dociau oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘People Like Us’ gan John Clinch yng Nghei’r Fôr-forwyn.
Fodd bynnag, wedi’r Ail Ryfel Byd gwelwyd dirywiad yn y diwydiant glo a chaewyd y dociau, a daeth y gwaith o allforio glo i ben yn y 1960au. Erbyn 1987 roedd yr ardal wedi mynd yn ddiraen a sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd (CDBC) er mwyn ei hailddatblygu.
Er mwyn adfywio’r Bae, a arferai fynd a dod gyda’r llanw, aeth CDBC ati i greu datblygiad glannau mwyaf Ewrop trwy adeiladu morglawdd ar draws mynedfa’r bae i greu llyn dŵr croyw trawiadol 500 acer, a gwblhawyd yn 1999. Yn sgil pryderon grwpiau amgylcheddol, roedd datblygwyr y Bae yn awyddus i ddiogelu’r ardaloedd o wlyptir yr oedd niferoedd mawr o adar hirgoes yn eu defnyddio, ac felly crëwyd gwarchodfa natur newydd ymhellach i lawr aber afon Hafren.
Yng Nghei’r Fôr-forwyn mae darnau o dreftadaeth gyfoethog y Bae o’ch cwmpas ym mhobman – Coffi Co yw’r hen sied giwio ar gyfer tocynnau i America, a chadwch lygad am waliau gwreiddiol y doc ym Roald Dahl Plass, ar safle’r hen Ddoc Hirgrwn. Mae’r ffaith fod y Bae wedi cael ei ddatblygu yn golygu y gellir diogelu’r dreftadaeth hon, ac ar yr un pryd greu ardal hamdden ragorol y gall cenedlaethau’r dyfodol ei defnyddio.

Hanes y Swyddfa Taliadau Llywio
Y Swyddfa Taliadau Llywio oedd yr adeilad gweinyddol ar gyfer y peilotiaid afon a oedd yn gweithredu ym Môr Hafren. O’r fan hon y byddai’r peilotiaid lleol yn casglu eu rhestr waith ar gyfer y diwrnod ac, yn bwysicach, eu tâl
Roedd swydd y peilotiaid yn un hanfodol er mwyn helpu llongau i lywio eu ffordd trwy’r dyfroedd twyllodrus. Roeddent yn cael eu cyflogi yn sgil eu gwybodaeth leol, i dywys y llongau mawr i mewn i’r doc trwy gulforoedd bas. Gwyddent ym mhle roedd y creigiau, y llaid a’r banciau tywod, ac ar ba ochr o’r bwiau y dylid pasio, ac roeddent yn gyfarwydd ag amodau’r tywydd a’r llanw a thrai – Môr Hafren sydd â’r ail amrediad llanw mwyaf yn y byd.
Nid dyma oedd pwrpas gwreiddiol yr adeilad, ac erys dirgelwch ynghylch ei gefndir. Does neb yn gwybod pam y cafodd ei adeiladu mewn gwirionedd, ond mae’n bosibl mai dyma’r adeilad hynaf yn y Bae. Mae ei waliau cerrig trwchus yn sicr yn golygu ei fod yn wahanol i’r adeiladau eraill cyfagos.
Mae’r Athro Neil Sinclair, sy’n hanesydd lleol, wedi awgrymu mai ail Ardalydd Biwt a’i hadeiladodd o bosibl, fel stabl ar gyfer y ceffylau gwaith mawr a oedd yn tynnu badau ar hyd Camlas Sir Forgannwg. Gallai’r drysau stabl bwaog mawr yng nghefn yr adeilad fod yn brawf o hyn – gallwch weld y bwa hyd heddiw, er bod estyniad gwydr wedi cymryd lle’r drysau.
Ni cheir unrhyw ddogfennau i brofi’r dyddiad adeiladu. Fe’i gwelir ar argraffiad 1af y map OS (1880), er na chafodd ei alw’n ‘The Pilotage Office’ hyd yr 2il argraffiad yn 1900. Fodd bynnag, mae’n bosibl iawn fod yr adeilad wedi’i godi cyn hynny, a bod ganddo gysylltiad cynharach â Chamlas Sir Forgannwg, a adeiladwyd yn 1790.
Un o nodweddion mwyaf nodedig yr adeilad yw’r ceiliog y gwynt (modern) ar ffurf llong a’r wyneb cwmpawd hanesyddol sydd wedi’i fewnosod ar waelod y tŵr oddi tano. Gwnaed y cwmpawd gan ‘W Weichart of Cardiff’ ac mae’n dangos cyfeiriad y gwynt mewn pwyntiau chwarter. Gosodwyd y ceiliog y gwynt yn y 1970au.
Cafodd y Swyddfa Taliadau Llywio ei throi’n fwyty, a dyma gartref Woods Brasserie o 1999 hyd 2015. Yma, bellach, y mae bwyty Bill’s, ac mae’r adeilad wedi’i adnewyddu’n ystyriol i greu bwyty prysur ag awyrgylch gwych. Dewch i weld yr hanes eich hun, a mwynhau pryd arbennig yn Bill’s ar yr un pryd.