Taflenni Gweithgaredd y Llwybr Celf i Ddisgyblion
Mae taflenni gweithgaredd y Llwybr Celf isod yn addas ar gyfer dosbarthiadau Derbyn, CA1, CA2 a CA3 a byddent yn gwneud diwrnod addysgiadol gwych ym Mae Caerdydd. Mae’r holl daflenni gweithgaredd ar gael i’w lawrlwytho isod, mewn lliw a du a gwyn er mwyn eu llungopïo, ynghyd â map yn dangos lleoliadau’r gweithiau celf. Ceir hefyd daflenni i athrawon ar gyfer gweithgareddau yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.
Beth am baru hyn â gweithgaredd arall ym Mae Caerdydd? Lawrlwythwch Becyn Addysg y Bae.

MAP O’R LLWYBR CELF
Map o’r Llwybr Celf yn dangos lleoliad y gweithiau celf a’r cerfluniau o amgylch Mermaid Quay.

GÊM ‘MI WELA I GYDA FY LLYGAD BACH I’ Y LLWYBR CELF
Mae’r gêm ‘Mi wela i gyda fy llygad bach i’ y Llwybr Celf yn addas i blant dosbarthiadau Meithrin a Derbyn.

GWEITHGAREDDAU CYFNOD ALLWEDDOL 1 Y LLWYBR CELF
Mae’r daflen weithgaredd hon yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1.

GWEITHGAREDDAU CYFNOD ALLWEDDOL 2 Y LLWYBR CELF
Mae’r daflen weithgaredd hon yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.

GWEITHGAREDDAU CYFNOD ALLWEDDOL 3 Y LLWYBR CELF
Mae’r daflen weithgaredd hon yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 3.

TAFLENNI GWEITHGAREDD I ATHRAWON
These activity sheets are for teachers to use back at the classroom for student activities.