Mae Mermaid Quay, canolfan fwyta a hamdden y glannau yng nghanol Bae Caerdydd, wedi ennill nid dim ond un ond dwy wobr Green Apple Environment ar gyfer 2021 gan The Green Organisation, grŵp rhyngwladol, annibynnol, dielw, anwleidyddol, amgylcheddol o fri, sy’n ymroi i gydnabod, gwobrwyo a hyrwyddo arferion gorau amgylcheddol ledled y byd.
Mae Mermaid Quay wedi dangos ymrwymiad hirsefydlog i leihau ei effaith amgylcheddol dros y blynyddoedd, ac eisoes wedi cael gwobr efydd Green Apple yn 2020 am ymgyrch ail-lenwi poteli dŵr REFILL Mermaid Quay . Mae rhagor o wybodaeth am fentrau amgylcheddol eraill Mermaid Quay ar gael yma.
Nawr, mae’r ganolfan wedi ennill gwobr National Green Champion ar gyfer 2021 am gyflwyno iwnifformau newydd wedi’u gwneud o boteli plastig wedi’u hailgylchu ar gyfer 20 o staff glanhau a thîm diogelwch y ganolfan. Gyda phob dilledyn yn ailgylchu o leiaf 15 potel blastig, mae’r newid wedi arwain at ddargyfeirio 1,600 o boteli plastig o safleoedd tirlenwi.
Meddai Simon Whitting, rheolwr canolfan Mermaid Quay:
“Yma ym Mermaid Quay, wrth galon Bae Caerdydd, mae holl aelodau tîm rheoli’r ganolfan wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a chwarae ein rhan yn y frwydr fyd-eang yn erbyn plastigau a llygredd amgylcheddol. Yn anffodus, mae llawer gormod o blastig yn golchi i’r lan yn y Bae, ac mae gweld effaith hynny wedi’n gwneud yn fwy penderfynol i weithredu. Dim ond un ymhlith nifer o fentrau yw’r iwnifformau newydd hyn.
Cyflwynwyd y gwisgoedd newydd – o gasgliad Honestly Made Regatta Professional – ym mis Mehefin 2021. I ddechrau roedd y tîm braidd yn amheus gyda’r syniad o wisgo gwisg wedi’u gwneud o boteli plastig wedi’u hailgylchu ond unwaith yr esboniwyd y wyddoniaeth ac ar ôl i’r samplau gyrraedd, fe newidion nhw eu meddwl yn llwyr.
Ychwanegodd Simon “O gyffwrdd neu edrych ar y deunydd dan sylw, fyddech chi byth yn amau bod y gwisgoedd wedi’u gwneud o boteli wedi’u hailgylchu – mae eu hansawdd yn amlwg i bawb, a’r dillad yn edrych yn wych ar y tîm. Mae’r wyddoniaeth y tu ôl i’r fenter hon yn ysbrydoledig.”
Ar ben hynny, mae Mermaid Quay wedi derbyn gwobr National Bronze Green Apple am ei bartneriaeth casgliadau cynaliadwy Mwy nag Ailgylchu gyda Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd.
Wrth ail-dendro ei wasanaethau casglu ailgylchu, roedd Mermaid Quay yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â sefydliad lle’r oedd cynaliadwyedd wrth wraidd popeth, a allai baratoi’r ganolfan ar gyfer rheoliadau gwastraff busnes Llywodraeth Cymru, cyn i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym. Fel lleoliad allweddol yn y sector bwyd a diod, roedd hi’n amlwg bod gan y ganolfan gyfraniad clir i’w wneud o ran darparu deunyddiau glân wedi’u didoli i’w hailgylchu (yn enwedig gwastraff bwyd) er mwyn cyflenwi stoc bwyd i’r economi gylchol yng Nghymru.
Sicrhaodd partneriaeth â thîm Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd fod Mermaid Quay yn gallu dechrau cyflawni ei nodau ailgylchu er gwaetha’r pandemig byd-eang. Yn 2020/21, llwyddodd y ganolfan i gasglu 72 tunnell o ddeunydd ailgylchadwy, gyda 26 tunnell (36%) ohono’n wastraff bwyd. Defnyddir y gwastraff bwyd i gynhyrchu ynni ar gyfer cartrefi’r brifddinas, ac mae 6% yn uwch na chanran y gwastraff ailgylchu a gasglwyd yn 2018 (roedd 30% yn wastraff bwyd).
Meddai Simon ‘Mae’r berthynas rhwng Mermaid Quay a Chyngor Dinas Caerdydd wedi dechrau’n eithriadol o dda ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw o’n hymdrechion cydweithredol unwaith y bydd pethau’n amgenach yn y byd unwaith eto. Rydyn ni’n rhannu’r un nodau â Chyngor Dinas Caerdydd gan fod y ddau ohonom yn ymdrechu i berffeithio ein harferion gorau amgylcheddol. Credaf mai dim ond megis dechrau’r daith yw hyn.“