Gyda golygfeydd godidog o’r glannau, mae PizzaExpress Mermaid Quay yn cynnwys seddi al fresco gwych ar gyfer tywydd braf. Mae’r bwyty mewn lleoliad perffaith gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm – delfrydol i ymwelwyr â’r theatr a chefnogwyr y celfyddydau.
Mae PizzaExpress yn deall pwysigrwydd pizza da. Dyna pam mae eu pizzaiolos gwych yn defnyddio’r toes enwog a’r cynhwysion mwyaf ffres sydd ar gael i greu’r pryd perffaith bob tro.
Suddwch eich dannedd i glasur cyfarwydd, neu rhowch gynnig ar rai o brydau newydd gwych y fwydlen – tunnell o dopins, ryseitiau pelenni toes blasus, di-glwten, opsiynau figan, diodydd, pwdinau, a chymaint mwy.
Beth am wledda yn y pizzeria, neu gallwch ddefnyddio’r opsiynau tecawê / danfon i fwynhau ble bynnag y mynnoch chi.
Awydd ychydig mwy? Ymunwch â’r PizzaExpress Club a chewch belenni toes am ddim dim ond am ymuno! Fel aelod, byddwch yn ennill Stampiau Pizza wrth brynu yn y pizzeria, wrth ddefnyddio’r gwasanaethau danfon neu gasglu ac wrth brynu pizza yn yr archfarchnad. Hawliwch wobrau am ddim bob tro rydych chi’n gwledda mewn pizzeria. Rhagor o wybodaeth yma: www.pizzaexpress.com/club
Buon appetito!
Llun – Gwe: 11:30 – 22:00
Sad: 11:30 – 22:30
Sul: 11:30 – 22:00