Yn ddiweddar, fe wnaethom gyfrannu ein cyfarpar TG drwy ITVET, contractiwr TG safle Mermaid Quay. Ein nod yw helpu plant difreintiedig drwy gefnogi eu haddysg a helpu i chwalu rhwystrau allgáu digidol.
Rhoddwyd y cyfarpar i fenter ‘Laptop for Schools’ ITVET sy’n adfer a dosbarthu deunyddiau TG i ysgolion a sefydliadau cymunedol. Mae’r cwmni cymorth a thechnoleg TG wedi bod yn rhedeg menter Laptops for Schools ers cyfnodau clo cyntaf COVID-19 i fynd i’r afael ag allgáu digidol mewn addysg a chefnogi’r economi gylchol hefyd.
Meddai Hannah Clark: “Fel rhan o’n menter ‘Waste Not, Want Not’ ym Mermaid Quay, rydyn ni’n falch iawn o weithio gydag ITVET a’u cynllun gliniaduron ar gyfer ysgolion. Mae technoleg yn cael effaith anhygoel ar yr hyn y gallwn ei gyflawni, ond nid pawb sydd â mynediad cyfartal iddo. Mae mentrau fel Laptops for Schools yn gwneud byd o wahaniaeth o ran pontio’r rhaniadau technolegol i roi cyfle cyfartal i’n plant mewn bywyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â’n cefnogaeth ac yn annog cwmnïau eraill i gymryd rhan a chyfrannu eu gliniaduron diangen.”Hannah Clark – Mermaid Quay
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol ITVET Cyf, Richard Fountain: “Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’n cleient, Mermaid Quay, am ei rodd hael i’n cynllun Laptops for Schools. Mae pob rhodd yn ein galluogi i ail-bwrpasu mwy o ddyfeisiau a’u rhoi yn nwylo’r rhai sydd eu hangen fwyaf.”Richard Fountain – Prif Swyddog Gweithredol ITVET Cyf
Os oes gan eich cwmni liniaduron diangen sy’n dal i weithio’n dda, cysylltwch ag ITVET i drefnu casgliad.
Rhagor o wybodaeth yn: https://www.itvet.co.uk/laptops-for-schools.