Sesiynau’r Haf – Wrenna

Mae’r gantores newydd Wrenna – a ddisgrifiwyd fel ‘ateb Cymru i Birdy’ – gyda’i sain pop amgen amrwd, yn siŵr o swyno unrhyw gynulleidfa gyda’i geiriau emosiynol, ei llais ysgafn a’i melodïau hudolus. Mae’n ysgrifennu am faterion nad ydyn nhw’n cael sylw fel arfer mewn cymdeithas, ac mae wedi’i dylanwadu gan gerddorion fel Lana Del Rey a Florence and The Machine.
Ers rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ‘These Nights’, sy’n sôn am daith galar, mae Wrenna wedi sicrhau ei lle ar restr boblogaidd ‘Welsh A-list’ BBC Radio Wales, sy’n tynnu sylw at gerddoriaeth newydd orau’r genedl.

Bydd hi’n canu ar y cei:
Dydd Iau 22 Awst rhwng 4pm a 6pm

Pwy yw Wrenna
Ers ei hail-frandio o Ffion Wren a rhyddhau ei sengl gyntaf ‘Life In My 20s’, mae gorsafoedd radio a gwrandawyr ledled y byd wedi dwlu arni, sy’n brawf cymdeithasol bod cefnogwyr yn cysylltu â’r straeon yn ei chaneuon. Disgrifiodd y cyflwynydd radio llawrydd Tim Senna eiriau ei chaneuon fel rhai prydferth a’i chân fel un hyfryd.
Bu Wrenna ar leoliad 3 mis yn Latfia dros fisoedd y gaeaf, gan weithio ochr yn ochr â chanwr-gyfansoddwr sefydledig, lle datblygodd ei gweledigaeth artistig, rhwydweithio â phobl greadigol o bob cwr o Ewrop, a hyd yn oed cyd-ysgrifennu cân ragbrofol Latfia ar gyfer cystadleuaeth yr Eurovision. Ers dychwelyd i Gymru, mae Wrenna wedi cael arian o gronfa ‘Youth Music Next Gen’ i gefnogi ei phrosiectau yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda’r elusen gerddoriaeth Anthem, mae wedi cydweithio ag artistiaid a phobl greadigol eraill o Gymru, ac mae’n cychwyn ei haf prysuraf yn perfformio yng ngŵyl ‘In It Together’ a’i phrif sioe yng Nghaerdydd.
Ar ôl canfod ei chariad at berfformio yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, enillodd Wrenna gystadleuaeth canwr-gyfansoddwr ym Mryste gan fachu ar y cyfle i recordio ei chaneuon yn ‘The Real-World Studios’. Ar ôl perfformio mewn lleoliadau gan gynnwys stadiwm Bristol City a ‘The Bristol Beacon’, aeth ymlaen i ennill gwobr ‘Cynnydd Eithriadol mewn Cerddoriaeth Fasnachol’ Prifysgol UWE (University of the West of England) ar ôl graddio yn 2022, gan sicrhau lle gwerthfawr ar raglen ysgoloriaeth y Brifysgol.