Fel rhan o brosiect gwella tir cyhoeddus Mermaid Quay, bu cynrychiolwyr y contractwyr Encon a thîm rheoli Mermaid Quay yn ymweld ag Ysgol Gynradd Mount Stuart gerllaw yn ddiweddar i siarad â’r disgyblion am beryglon safleoedd adeiladu ac i lansio cystadleuaeth gelf i greu poster diogelwch safle.
Cafodd tîm gwerth cymdeithasol Encon, Antonia John a Chloe Gore, a Jenny Bunday, rheolwr gwasanaethau meddal Mermaid Quay brynhawn gwych gyda disgyblion yr ysgol ac roeddent wrth eu bodd â’r lefel uchel o ddiddordeb a’r ystod eang o gwestiynau yn y sesiwn Holi ac Ateb.
Meddai Antonia John: “Hoffem ddiolch i athrawon a disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart am eu croeso cynnes. Nawr allwn ni ddim aros i weld y cynigion ar gyfer y gystadleuaeth creu poster. Bydd y posteri buddugol yn cael eu hargraffu a’u harddangos ar ein hysbysfyrddau yn Mermaid Quay. Ar ôl gorfod cyflwyno digwyddiadau ymgysylltu ag ysgolion yn rhithwir am amser mor hir, roedd yn wych bod yn ôl mewn ysgol a chyfarfod y disgyblion. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd i Ysgol Gynradd Mount Stuart i gyflwyno gwobrau i’r artistiaid buddugol.”
Mae’r prosiect cyffrous i drawsnewid cyrchfan bwyta a hamdden boblogaidd Glannau Bae Caerdydd, yn cynnwys palmant newydd, goleuadau newydd, arwyddion, seddi a phlanhigion a mwy – manylion yma
Dechreuodd y gwaith ym mis Medi a chaiff ei wneud dros yr hydref a’r gaeaf, fel y bydd y ganolfan ar ei newydd wedd erbyn y Pasg 2022.
Mae busnesau yn Mermaid Quay yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith adeiladu ac mae Encon yn gweithio i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu arnyn nhw – yn ogystal ag ymwelwyr a chymdogion – tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Aethom yn ôl i ysgol gynradd Mount Stuart Primary School gyda chwmni EnCon Construction ddechrau mis Ebrill i gyflwyno gwobrau i artistiaid buddugol ein cystadleuaeth poster diogelwch safle.
Dyma’r posteri a welwyd ar ffensys Heras o gwmpas y safle, er mwyn hybu a hyrwyddo diogelwch yn ystod y gwaith adeiladu.