Ers agor yn 2001, mae Signor Valentino wedi ennill enw da fel un o fwytai mwyaf ffasiynol y glannau yng Nghaerdydd, ac mae wedi dod yn un o’r ffefrynnau ymhlith bwytai’r brifddinas.
Mae’r fwydlen yn un Eidalaidd 100%, ac yn defnyddio’r cynhwysion gorau a’r rhai mwyaf ffres yn unig.
Mewn lle gwych ar lawr cyntaf ardal bwytai Cei’r Fôr-forwyn, mae Signor Valentino yn cynnig golygfeydd panoramig dros Fae Caerdydd. Mae naws fywiog a phrysur y bwyty, sy’n enwog ynddi’i hun, yn ategu’r bwyd Eidalaidd cyfoes sy’n cael ei baratoi’n ffres i greu profiad bwyta gwirioneddol gosmopolitaidd ond anffurfiol, gyda chegin agored, llawr derw Americanaidd, a balconi â lle i dros 40 o bobl fwyta yn yr awyr agored.
Llun i Sul: 12:00 – hwyr