Technicolour Choir – SESIYNAH – HAF

Ym mis Awst, bydd Technicolour yn ymuno â ni – côr sy’n ail-gymysgu Theatr Gerddorol gyda sain ffres, harmonïau epig, mash yps a glityr. Cerddoriaeth Broadway gyda naws gŵyl.

Maen nhw’n ymuno â ni fel rhan o’n harlwy Sesiynau’r Haf. Fe fyddan nhw ar lan y cei:

  • Dydd Sul 4 Awst 2024 rhwng 2pm a 3pm

Ynglŷn â Technicolour:
Côr sy’n llawn pobl sy’n cefnogi ei gilydd i greu mawredd, sy’n gweithio’n galed ac yn chwarae’n galed, sy’n dathlu unigoliaeth; côr sy’n rhoi hyder i’w gilydd ac yn codi ei gilydd.
Crëwyd Technicolour gan Patrick Steed a dechreuodd eu taith yn 2018. Lansiodd y côr yng Nghaerdydd, cyn ehangu i Fryste ac UWE (fel rhan o Ganolfan Cerddoriaeth y Brifysgol).
Yn 2020, aeth y daith ar-lein gan ffurfio TechnicolourVIRTUAL a chroesawyd aelodau o bob cwr o’r DU a thu hwnt. Ar hyn o bryd, maen nhw wedi’u lleoli yng Nghaerdydd yn unig – fodd bynnag, mae ganddyn nhw aelodau o bob rhan o’r DU sy’n canu gyda nhw fel rhan o TechnicolourFUSION.
Mae Technicolour yn agored i oedolion o bob rhywedd a gallu. Does dim clyweliadau gan eu bod yn credu y dylai cerddoriaeth fod yn hygyrch i bawb AC ar yr un pryd mae ganddyn nhw safonau uchel, maen nhw’n caru her ac yn cefnogi ei gilydd i sicrhau rhagoriaeth!