Mae eich defnydd o’r wefan hon yn golygu eich bod chi ac, os yw’n berthnasol, eich penaethiaid yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a’r amodau hyn, gofynnir ichi beidio â defnyddio’r wefan hon. Mae’r wybodaeth a’r deunydd a ddarperir ar y wefan hon yn cael eu darparu am ddim (oni bai lle nodir yn wahanol) ac at ddibenion esboniadol yn unig. Nid eu bwriad yw sefydlu perthynas fusnes, perthynas gytundebol na pherthynas gyflogaeth â Chei’r Fôr-forwyn na thenantiaid Cei’r Fôr-forwyn, CBRE, Schroder Property Investment Management Cyf., Schroder Capital, Schroder UK Property Fund nac unrhyw rai o’u perchnogion hwythau.
Mae’r wybodaeth, y cynnwys, y testun a’r delweddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i god HTML, sgriptiau a ffotograffiaeth, yn eiddo i’r partïon a restrir ym mharagraff 2 uchod (ac eithrio lle cydnabyddir fel arall) ac ni cheir eu copïo, eu hatgynhyrchu, eu hailgyhoeddi, eu postio, eu trosglwyddo na’u dosbarthu mewn unrhyw fodd heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ni ymlaen llaw.
Mae pob nod masnach a ddefnyddir neu y cyfeirir atynt ar y safle hwn yn eiddo i’r partïon a restrir ym mharagraff 2 uchod. Ni allwn fod yn gyfrifol am ddolenni i wefannau eraill ac nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth y maent yn ei chynnwys.
Mae’r wefan hon yn cael ei darparu “fel y mae” ac mae’r partïon a restrir ym mharagraff 2 yn gwadu’n bendant bob gwarant o unrhyw fath, boed yn bendant neu’n oblygedig, gan gynnwys gwarantau marchnadwyedd ac addasrwydd ar gyfer diben penodol. Ni fydd y partïon a restrir ym mharagraff 2 uchod, dan unrhyw amgylchiadau, yn gyfrifol am unrhyw niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, arbennig, damweiniol na chanlyniadol sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth a geir ar y wefan hon.
Mae’r partïon a restrir ym mharagraff 2 uchod yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg trwy gyhoeddi’r newidiadau ar y wefan hon. Rydych chi’n gyfrifol am adolygu’r telerau a’r amodau hyn yn rheolaidd er mwyn cael eich hysbysu o newidiadau o’r fath. Bydd y ffaith eich bod yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon wedi unrhyw newid o’r fath yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau hynny. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golledion uniongyrchol nac anuniongyrchol a ddaw yn sgil eich defnydd o’n gwefan.
I gysylltu â ni ynghylch yr wybodaeth a ddangosir yma, e-bostiwch [email protected].