Mae Zia Boutique yn cynnig amrywiaeth wych o anrhegion wedi’u gwneud â llaw, o offer cartref hyfryd a gemwaith hardd i fagiau llaw chwaethus a’r holl atodion hanfodol hynny.
Mae Zia yn fwtîc annibynnol sy’n cynnig detholiad gwych o frandiau gan gynnwys East of India, Gisella Graham, Kate Hamilton-Hunter Studio, Joma Jewellery, Katie Loxton, Jelly Cat a Bomb Cosmetics, ynghyd ag eitemau unigryw ac annibynnol.
Mae dewis gwych o gardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg ac anrhegion ar gael hefyd ar gyfer pob achlysur. Bydd Zia hyd yn oed yn lapio eich anrhegion i chi, fel y gallwch eu cyflwyno’n berffaith.
Gallwch hefyd siopa ar-lein neu wneud defnydd o’u hopsiwn clicio a chasglu am ddim – ewch i’r wefan YMA.
Ewch i Zia a sbwylio rhywun (neu chi eich hun) i rywbeth arbennig.
Llun to Sad 11:00 – 18:00
Sul 11:00 – 17:00